
Rheolwr Ysgol Goedwig
Jackie yw'r Rheolwr yn Ysgol Goedwig Abertawe Castell-nedd Port Talbot (SNPT), gan ofalu am ein gweithrediadau a'n gweinyddiaeth. Mae gan Jackie gyfoeth o brofiad ym maes chwarae plant a gweithio mewn natur. Mae hi wedi gweithio yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, gan ddefnyddio ei gwybodaeth a'i phrofiad eang o reoli prosiectau a rheolaeth weithredol. Un o'i hangerddau yw gweithio mewn ffordd gyfannol (holistic). Mae hi wrth ei bodd yn gweithio fel rhan o dîm o unigolion o'r un anian.
Gweinyddwr Hyfforddiant Ysgol Goedwig Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot (SNPT)
Mae Katy wedi ymuno â'r tîm yn ddiweddar fel Gweinyddwr Hyfforddiant. Fel mam i dri o blant sy’n caru’r awyr agored, a chyda phrofiad o ddatblygu chwarae a gweithio fel Gweinyddwr Hyfforddiant, mae gan Katy wir ddealltwriaeth o fanteision byd natur ar iechyd corfforol a meddyliol plant a phobl ifanc. Mae hi'n credu y dylai pawb gael y cyfle i gysylltu â byd natur ac elwa o sut y gall helpu unigolion i feithrin hyder a hunan-barch, gan greu unigolion iachach a hapusach.
Hyfforddwr yr Ysgol Goedwig
A chanddi radd mewn Addysg Amgylcheddol a TAR mewn Addysg Uwchradd, mae gan Karen gefndir mewn rheoli coetiroedd a gwyddoniaeth. Mae hi'n cynnal sesiynau Seedlings ac yn cyflwyno hyfforddiant ar bob lefel.
Arweinydd yr Ysgol Goedwig
Mae Pixie wedi bod yn Arweinydd yr Ysgol Goedwig ers 2002, ac mae hi wedi bod yn rhan o dîm ysbrydoledig a meithringar Ysgol Goedwig Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot (SNPT) byth ers hynny. Treuliodd lawer o'i phlentyndod yn chwarae yn yr awyr agored ac yn cael pob math o anturiaethau mewn coedwigoedd a mannau gwyllt. Mae’n frwd dros alluogi ac annog plant heddiw i gysylltu â'r amgylchedd naturiol.
Arweinydd yr Ysgol Goedwig
Magwyd Charlotte ym Mhenrhyn Gŵyr ac mae hi wedi bod wrth ei bodd yn archwilio coedwigoedd a'r traethau lleol erioed. Mae hi'n angerddol am gysylltiad byd natur â lles, a rhoi cyfle i blant gael anturiaethau yn yr awyr agored. Mae hi'n Arweinydd yr Ysgol Goedwig cymwys, ac ar hyn o bryd yn gweithio fel cynorthwyydd. Mae ganddi radd BSc (Anrh) mewn Cadwraeth Amgylcheddol a Diploma Graddedig mewn Cadwraeth a Rheolaeth Amgylcheddol. Dechreuodd wirfoddoli i Ysgol Goedwig Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot (SNPT) yn 2003, ac mae hi wedi bod yn rhan o'r sefydliad ers hynny. Hi oedd cyd-sefydlydd Gower Unearthed, busnes dysgu yn yr awyr agored ar Benrhyn Gŵyr, ac roedd hi'n rhan o sefydlu a chyflwyno’r Ysgol Goedwig mewn llawer o ysgolion cynradd lleol.